llanberis guides - mountain guiding north Wales

Cymraeg

Llanberis Guides Cyf. Canolfan tywyswyr mynydd yw hon sydd wedi ei lleoli yn y pentref wrth droed yr Wyddfa, ar ochr ogleddol Parc Cenedlaethol Eryri.

Llanberis yw canolbwynt dringo a mynydda Gogledd Cymru. Mae’r pentref yn enwog am ei siopau gweithgareddau awyr agored, ei gaffis i fynyddwyr a’i awyrgylch mynydda cynhyrfus, heb sôn am y ffaith ei fod mor agos at brif greigiau a mynyddoedd yn yr ardal. Dyma’r lle gorau ar gyfer dringo creigiau, mynydda a cherdded mynyddoedd drwy’r flwyddyn ym Mhrydain, ac o’r herwydd nid yw’n syndod fod gan Lanberis draddodiad mynydda hanesyddol a lliwgar sy’n ymestyn dros 100 mlynedd.

Gyda thywysydd gallwch ddatblygu eich sgiliau, mwynhau’r mynyddoedd a’r clogwyni yn ddiogel a chrwydro oddi ar y llwybrau arferol i ddarganfod rhai o gilfachau godidog Eryri. Byddwch hefyd yn llwyddo i wneud mwy yn yr amser sydd ar gael gyda chymorth rhai sy’n adnabod yr ardal ac sydd wedi arfer gwneud penderfyniadau.

Rydym yn arbenigo mewn arwain, dysgu a hyfforddi yn y mynyddoedd ar bob lefel, yn cynnwys cerdded mynyddoedd, dringo creigiau ar gyfer pob lefel a sgramblo â rhaffau i gerddwyr anturus. Gallwn hyfforddi pobl ar gyfer sgiliau mynydda cyffredinol megis ymwybyddiaeth o gwympfeydd eira, achub gyda rhaffau a pharatoi ar gyfer dringo Alpaidd. Mae’n bosibl rhoi arweiniad neu gyfarwyddyd ar gyfer rhew ac eira bob tro y bydd amodau yn caniatáu yn ystod misoedd y gaeaf. Gallwn hefyd gynnig cyngor a gwybodaeth i gerddwyr a dringwyr sy’n ymweld â’r ardal.

Gallwch ddod ar eich pen eich hun, gyda phartner neu mewn gr_p. Beth bynnag fydd lefel eich profiad, o’r dechrau cyntaf hyd at arbenigedd, byddwn yn cynllunio diwrnod neu gwrs fydd yn cyfateb i’ch gofynion. Yr unig bethau fydd angen i chi ddod gyda chi yw dillad ‘awyr agored’ addas, sach gefn ac esgidiau – ni fydd yn gofalu am y gweddill.

Mae tywyswyr mynydd â chymhwyster rhyngwladol IFMGA yn gofalu am Llanberis Guides, sef Libby Peter a Ric Potter, sydd wedi bod yn arwain yn yr ardal ers 1990. Mae gan Ric a Libby hefyd gymhwyster MIC a’u profiadau yn amrywio o glogfeini hyd at fynydda uchel, tywys yn yr Alpau a phopeth arall.

Bydd gan dywyswyr eraill sy’n gweithio gyda Llanberis Guides Cyf y cymwysterau cenedlaethol priodol, ond, yn bwysicach fyth, byddant yn ddringwyr a mynyddwyr lleol gyda gwybodaeth drylwyr o’r ardal a phroffesiynoldeb diffwdan

Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost er mwyn i ni ddarganfod tywysydd, trefnu lle i chi a threfnu i’ch cyfarfod ble bynnag a phryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Os na allwch ddarganfod yr hyn yr ydych yn chwilio amdano cysylltwch â ni er mwyn i ni geisio eich helpu.

Llanberis Guides Cyf....